RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Diwallu anghenion gofalwr am gymorth
45Pŵer i ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth
(1)
Caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr am gymorth os yw’r person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(a)
o fewn ardal yr awdurdod lleol, neu
(b)
yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, ond y tu allan i’w ardal.
(2)
Mae gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion o dan yr adran hon p’un a yw wedi cwblhau asesiad ai peidio o anghenion yn unol â Rhan 3 neu asesiad ariannol yn unol â Rhan 5.