RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion gofalwr am gymorth

43Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth: materion atodol

(1)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ar neu islaw’r terfyn ariannol, a

(b)

os yw is-adran (5), (6) neu (7) yn gymwys.

(2)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol fod adnoddau ariannol yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano yn uwch na’r terfyn ariannol, a

(b)

os yw is-adran (5), (6) neu (7) yn gymwys.

(3)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn dalu unrhyw swm am y gofal a’r cymorth, a

(b)

naill ai—

(i)

os yw is-adran (5), (6) neu (8) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)

os yw is-adran (10) neu (11) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(4)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

mewn cysylltiad ag oedolyn y mae’r awdurdod lleol yn credu y byddai’n gosod ffi arno am ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ar sail asesiad ariannol y byddai’n rhesymol ymarferol i’r oedolyn—

(i)

talu’r ffi safonol am y gofal a’r cymorth, neu

(ii)

talu unrhyw swm arall am y gofal a’r cymorth,

(b)

os nad yw’r oedolyn yn gwrthwynebu i’r gofal a’r cymorth gael eu darparu, ac

(c)

naill ai—

(i)

os yw is-adran (5), (6) neu (8) yn gymwys, yn achos plentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed, neu

(ii)

os yw is-adran (10) neu (11) yn gymwys, yn achos plentyn anabl o dan 16 oed.

(5)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw, a

(b)

os yw’r person yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(6)

Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw person awdurdodedig yn cytuno, ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano, i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(7)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan yr oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r oedolyn hwnnw,

(b)

os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac

(c)

os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni ei bod er lles pennaf yr oedolyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(8)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano alluedd i benderfynu p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw,

(b)

os nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran y plentyn, ac

(c)

os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(9)

Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (8)(c) os yw wedi ei fodloni na fyddai er lles pennaf y plentyn anabl.

(10)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)

os yw’r plentyn yn cytuno i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(11)

Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)

os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni nad oes gan y plentyn anabl y mae’r gofalwr yn gofalu amdano ddealltwriaeth ddigonol i wneud penderfyniad deallus ynghylch cael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r plentyn hwnnw, a

(b)

os nad oes gwrthwynebiad wedi ei wneud gan berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu yn y modd hwnnw.

(12)

Caiff yr awdurdod lleol ddiystyru gwrthwynebiad at ddibenion is-adran (11)(b) os yw wedi ei fodloni na fyddai’n gyson â llesiant y plentyn anabl.

(13)

Yn yr adran hon—

mae i “ffi safonol” (“standard charge”) yr ystyr a roddir gan adran 63(3);

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu ar ran y person y mae’r gofalwr yn gofalu amdano p’un ai i gael yr anghenion o dan sylw wedi eu diwallu drwy ddarparu gofal a chymorth i’r person hwnnw.

(14)

I gael ystyr “asesiad ariannol” a “terfyn ariannol” gweler Rhan 5.