RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Diwallu anghenion gofalwr am gymorth
42Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth
(1)
Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sy’n blentyn am gymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a (pan fo’n gymwys) 3, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni.
(2)
Amod 1 yw bod y person y gofelir amdano gan y gofalwr—
(a)
yn oedolyn—
(i)
sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu
(ii)
nad oes ganddo breswylfa sefydlog ac sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu
(b)
yn blentyn anabl sydd o fewn ardal yr awdurdod.
(3)
Amod 2 yw bod anghenion y gofalwr yn bodloni’r meini prawf cymhwystra.
(4)
Amod 3—
(a)
i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)
yw nad oes ffi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran F143(5), (6) neu (7) yn gymwys, neu
(ii)
i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran F243(1) neu (2) yn gymwys;
(b)
i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)
yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran F343(5), (6) neu (8) yn gymwys, neu
(ii)
i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran F443(3) neu (4) yn gymwys;
(c)
i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl o dan 16 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)
yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran F543(10) neu (11) yn gymwys, neu
(ii)
i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran F643(3) neu (4) yn gymwys.