RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Diwallu anghenion gofalwr am gymorth
40Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth
(1)
Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion gofalwr sy’n oedolyn am gymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1, 2 a 3, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni.
(2)
Amod 1 yw bod y person y gofelir amdano gan y gofalwr—
(a)
yn oedolyn—
(i)
sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu
(ii)
nad oes ganddo breswylfa sefydlog ac sydd o fewn ardal yr awdurdod, neu
(b)
yn blentyn anabl sydd o fewn ardal yr awdurdod.
(3)
(4)
Amod 3—
(a)
i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu cymorth i’r gofalwr—
(i)
yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny, neu
(ii)
i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(1) neu (2) yn gymwys;
(b)
i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i oedolyn y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)
yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (9) yn gymwys, neu
(ii)
i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(3) neu (4) yn gymwys;
(c)
i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl sy’n 16 neu’n 17 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)
yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(7), (8) neu (10) yn gymwys, neu
(ii)
i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys;
(d)
i’r graddau y mae diwallu anghenion y gofalwr yn golygu darparu gofal a chymorth i blentyn anabl o dan 16 oed y mae’r gofalwr yn gofalu amdano—
(i)
yw nad oes ffi yn cael ei chodi o dan adran 59 am ddiwallu’r anghenion hynny a bod adran 41(12) neu (13) yn gymwys, neu
(ii)
i’r graddau y mae ffi yn cael ei chodi, yw bod adran 41(5) neu (6) yn gymwys.