RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion plant am ofal a chymorth

39Dyletswydd i gadw cyswllt â’r teulu

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i blentyn—

(a)

sydd o fewn ardal awdurdod lleol,

(b)

y mae’r awdurdod lleol o’r farn bod ganddo anghenion am ofal a chymorth yn ychwanegol at y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn,

(c)

sy’n byw ar wahân i’w deulu, a

(d)

nad yw’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

(2)

Os yw’r awdurdod lleol o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn hyrwyddo llesiant y plentyn, rhaid iddo gymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol er mwyn—

(a)

galluogi’r plentyn i fyw gyda’i deulu, neu

(b)

hyrwyddo cyswllt rhwng y plentyn a’i deulu.