RHAN 4DIWALLU ANGHENION

Diwallu anghenion plant am ofal a chymorth

38Pŵer i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn

(1)

Caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth os yw’r plentyn—

(a)

o fewn ardal yr awdurdod lleol, neu

(b)

yn preswylio fel arfer o fewn ardal yr awdurdod, ond y tu allan i’w ardal,

(ond gweler is-adran (4)).

(2)

Os yw awdurdod lleol yn diwallu o dan is-adran (1) anghenion plentyn sy’n preswylio fel arfer o fewn ardal awdurdod lleol arall, rhaid iddo hysbysu’r awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal ei fod yn gwneud hynny.

(3)

Mae gan awdurdod lleol bŵer i ddiwallu anghenion o dan yr adran hon p’un a yw wedi cwblhau asesiad ai peidio o anghenion yn unol â Rhan 3 neu asesiad ariannol yn unol â Rhan 5.

(4)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—

(a)

awdurdod lleol,

(b)

awdurdod lleol yn Lloegr,

(c)

awdurdod lleol yn yr Alban, neu

(d)

ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.