RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Diwallu anghenion plant am ofal a chymorth
37Dyletswydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth plentyn
(1)
Rhaid i awdurdod lleol ddiwallu anghenion plentyn am ofal a chymorth os caiff ei fodloni bod amodau 1 a 2, ac unrhyw amodau a bennir mewn rheoliadau, wedi eu cyflawni (ond gweler is-adrannau (5) a (6)).
(2)
Amod 1 yw bod y plentyn yn ardal yr awdurdod lleol.
(3)
Amod 2 yw—
(a)
bod yr anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra, neu
(b)
bod yr awdurdod lleol yn barnu ei bod yn angenrheidiol diwallu’r anghenion er mwyn amddiffyn y plentyn—
(i)
rhag cael, neu rhag risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu
(ii)
rhag cael, neu rhag risg o gael, ei niweidio mewn modd arall.
(4)
Os yw’r awdurdod lleol wedi ei hysbysu am blentyn o dan adran 120(2)(a) F1neu o dan adran 85(1) o Ddeddf Plant 1989 (plant sy’n cael eu lletya gan awdurdodau iechyd ac awdurdodau addysg lleol), rhaid iddo drin y plentyn fel un sydd o fewn ei ardal at ddibenion yr adran hon.
(5)
Nid yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys i anghenion plentyn i’r graddau y mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod yr anghenion hynny yn cael eu diwallu gan deulu’r plentyn neu ofalwr.
(6)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—
(a)
awdurdod lleol,
(b)
awdurdod lleol yn Lloegr,
(c)
awdurdod lleol yn yr Alban, neu
(d)
ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.