RHAN 4DIWALLU ANGHENION
Penderfynu beth i’w wneud ar ôl asesiad o anghenion
34Sut i ddiwallu anghenion
(1)
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r ffyrdd y caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45—
(a)
drwy drefnu bod person heblaw’r awdurdod yn darparu rhywbeth;
(b)
drwy ddarparu rhywbeth ei hun;
(c)
drwy ddarparu rhywbeth, neu drwy drefnu i rywbeth gael ei ddarparu, i berson ac eithrio’r person ag anghenion am ofal a chymorth (neu gymorth yn achos gofalwr).
(2)
Mae’r canlynol yn enghreifftiau o’r hyn y gellir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 45—
(a)
llety mewn cartref gofal, cartref plant neu fangre o ryw fath arall;
(b)
gofal a chymorth gartref neu yn y gymuned;
(c)
gwasanaethau, nwyddau a chyfleusterau;
(d)
gwybodaeth a chyngor;
(e)
cwnsela ac eiriolaeth;
(f)
gwaith cymdeithasol;
(g)
taliadau (gan gynnwys taliadau uniongyrchol);
(h)
cymhorthion ac addasiadau;
(i)
therapi galwedigaethol.
(3)
Pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion person o dan adrannau 35 i 45 drwy ddarparu neu drefnu gofal a chymorth yng nghartref y person, rhaid i’r awdurdod lleol fodloni ei hun bod unrhyw ymweliadau â chartref y person at y diben hwnnw yn ddigon hir i roi i’r person y gofal a’r cymorth sydd ei angen i ddiwallu’r anghenion dan sylw.
(4)
Rhaid i gôd a ddyroddir o dan adran 145 gynnwys canllawiau ynghylch hyd ymweliadau â chartref person at y diben o roi gofal a chymorth.
(5)
Gweler adrannau 47 (eithriad ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd), 48 (eithriad ar gyfer darparu tai etc) a 49 (cyfyngiadau ar ddarparu taliadau) ar gyfer cyfyngiadau ar yr hyn y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth a’r ffordd y caniateir ei ddarparu neu ei drefnu.