Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

32Dyfarnu cymhwystra ac ystyried beth i’w wneud i ddiwallu anghenionLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni [F1, ar sail asesiad o anghenion,] bod ar berson anghenion am ofal a chymorth neu, os gofalwr yw’r person, bod arno anghenion am gymorth, rhaid i’r awdurdod—

(a)dyfarnu a oes unrhyw un neu rai o’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra;

(b)[F2os nad yw’r anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra,] ddyfarnu a yw’n angenrheidiol diwallu’r anghenion[F2, serch hynny,] i amddiffyn y person—

(i)rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso (os oedolyn yw’r person);

(ii)rhag cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso, neu rhag cael, neu rhag risg o gael, ei niweidio mewn modd arall (os plentyn yw’r person);

(c)dyfarnu a yw’r anghenion yn galw am arfer unrhyw swyddogaeth sydd ganddo o dan y Ddeddf hon neu Rannau 4 neu 5 o Ddeddf Plant 1989, i’r graddau y mae’r swyddogaeth yn berthnasol i’r person hwnnw;

(d)ystyried a fyddai darparu unrhyw beth y gellir ei ddarparu yn rhinwedd adran 15 (gwasanaethau ataliol) neu 17 (gwybodaeth, cyngor a chynhorthwy) neu unrhyw beth arall a all fod ar gael yn y gymuned o fudd i’r person.

(2)Os yw awdurdod lleol yn dyfarnu bod rhaid i unrhyw anghenion gael eu diwallu, neu eu bod i’w diwallu, o dan adrannau 35 i 45, rhaid i’r awdurdod—

(a)ystyried yr hyn y gellid ei wneud i ddiwallu’r anghenion hynny;

(b)ystyried a fyddai’n gosod ffi am wneud y pethau hynny, ac os felly, dyfarnu swm y ffi honno (gweler Rhan 5).

(3)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch cyflawni’r ddyletswydd o dan is-adran (1)(a).

(4)Mae anghenion yn bodloni’r meini prawf cymhwystra os ydynt—

(a)o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau, neu

(b)yn rhan o gyfuniad o anghenion o ddisgrifiad a bennir felly.

(5)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, ddisgrifio anghenion drwy gyfeirio at—

(a)yr effaith y mae’r anghenion yn ei chael ar y person o dan sylw;

(b)amgylchiadau’r person.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 32(1) wedi eu hepgor (dd.) (1.4.2020) yn rhinwedd Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 22(4)(a) (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 23, 24, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3(ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a))

F2Geiriau yn a. 32(1)(b) wedi eu hepgor (dd.) (1.4.2020) yn rhinwedd Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 22(4)(b) (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 23, 24, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3(ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a))

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1A. 32(1)(a) cyfyngedig (dd.) (1.4.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 22(1)(2) (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 23, 24, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a)

C2A. 32(2)(b) cyfyngedig (dd.) (1.4.2020) gan Coronavirus Act 2020 (c. 7), a. 87(2), Atod. 12 para. 22(1)(2) (ynghyd ag aau. 88-90, Atod. 12 parau. 23, 24, 34); O.S. 2020/366, rhl. 3 (ddarpariaethau sy'n effeithio'n gynharach wedi'i atal (22.3.2021) gan (O.S. 2021/316), rhlau. 1(2), 2(a) ac yn dod i ben (1.8.2021) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/850), rhlau. 1(2), 2(a))

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 32 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)