RHAN 3ASESU ANGHENION UNIGOLION

Materion atodol

29Cyfuno asesiadau o anghenion ac asesiadau eraill

(1)

Pan fo’n ymddangos bod gan berson y mae’n ymddangos bod arno angen cymorth fel gofalwr anghenion am ofal a chymorth yn ei hawl ei hun hefyd, caiff awdurdod lleol gyfuno asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 24 ag asesiad o anghenion ar gyfer y person hwnnw o dan adran 19 neu 21.

(2)

Caiff awdurdod lleol wneud asesiad o anghenion ar gyfer person yr un pryd ag y mae ef neu gorff arall yn gwneud asesiad arall o dan unrhyw ddeddfiad mewn perthynas â’r person hwnnw.

(3)

At ddibenion is-adran (2)—

(a)

caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar ran y corff arall neu ar y cyd ag ef, neu

(b)

os yw’r corff arall eisoes wedi trefnu i’r asesiad arall gael ei wneud ar y cyd â pherson arall, caiff yr awdurdod lleol wneud yr asesiad arall ar y cyd â’r corff arall a’r person arall hwnnw.