RHAN 3ASESU ANGHENION UNIGOLION
Asesu gofalwyr
24Dyletswydd i asesu anghenion gofalwr am gymorth
(1)
Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod ar ofalwr anghenion am gymorth, rhaid i’r awdurdod asesu—
(a)
a oes ar y gofalwr anghenion am gymorth (neu a yw’n debygol y bydd arno anghenion am gymorth yn y dyfodol), a
(b)
os oes, beth yw’r anghenion hynny (neu’r anghenion tebygol yn y dyfodol).
(2)
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran gofalwr sy’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal—
(a)
i oedolyn neu blentyn anabl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, neu
(b)
i unrhyw oedolyn arall neu blentyn anabl arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.
(3)
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod—
(a)
ar lefel anghenion y gofalwr am gymorth, neu
(b)
ar lefel adnoddau ariannol y gofalwr neu’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.
(4)
Wrth gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)
asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn gallu, ac y bydd yn parhau i allu, darparu gofal i’r person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo,
(b)
asesu i ba raddau y mae’r gofalwr yn fodlon, ac y bydd yn parhau i fod yn fodlon, gwneud hynny,
(c)
yn achos gofalwr sy’n oedolyn, ceisio canfod y canlyniadau y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau,
(d)
yn achos gofalwr sy’n blentyn, ceisio canfod y canlyniadau—
(i)
y mae’r gofalwr yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y gofalwr,
(ii)
y mae’r personau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr i’r graddau y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol, o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y gofalwr, a
(iii)
y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r gofalwr,
(e)
asesu a allai darparu—
(i)
cymorth,
(ii)
gwasanaethau ataliol, neu
(iii)
gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,
gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion a nodir gan yr asesiad, ac os felly, i ba raddau, ac
(f)
asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau.
(5)
Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo gynnal asesiad o anghenion o dan yr adran hon, roi sylw i’r materion a ganlyn—
(a)
a yw’r gofalwr yn gweithio neu’n dymuno gwneud hynny,
(b)
a yw’r gofalwr yn cymryd rhan, neu’n dymuno cymryd rhan, mewn gweithgareddau addysg, hyfforddiant neu unrhyw weithgaredd hamdden, ac
(c)
yn achos gofalwr sy’n blentyn—
(i)
anghenion datblygiadol y plentyn, a
(ii)
a yw’n briodol i’r plentyn ddarparu’r gofal (neu unrhyw ofal) yng ngoleuni’r anghenion hynny.
(6)
Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—
(a)
y gofalwr, a
(b)
pan fo’n ddichonadwy, y person y mae’r gofalwr yn darparu neu’n bwriadu darparu gofal iddo.
(7)
Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.