RHAN 3ASESU ANGHENION UNIGOLION
Asesu plant
21Dyletswydd i asesu anghenion plentyn am ofal a chymorth
(1)
Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol y gall fod angen gofal a chymorth ar blentyn yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn, rhaid i’r awdurdod asesu—
(a)
a oes angen gofal a chymorth o’r math hwnnw ar y plentyn, a
(b)
os oes, beth yw’r anghenion hynny.
(2)
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys o ran—
(a)
plentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod, a
(b)
unrhyw blentyn arall sydd o fewn ardal yr awdurdod.
(3)
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys ni waeth beth fo barn yr awdurdod lleol—
(a)
ar lefel anghenion y plentyn am ofal a chymorth, neu
(b)
ar lefel adnoddau ariannol y plentyn F1neu unrhyw berson a chanddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(4)
Wrth wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol—
(a)
asesu anghenion datblygiadol y plentyn,
(b)
ceisio canfod y canlyniadau—
(i)
y mae’r plentyn yn dymuno eu sicrhau, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn,
(ii)
y mae’r personau a chanddynt gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn, i’r graddau y mae’n barnu ei bod yn briodol o roi sylw i’r angen am hyrwyddo llesiant y plentyn, a
(iii)
y mae personau a bennir mewn rheoliadau (os oes rhai) yn dymuno eu sicrhau mewn perthynas â’r plentyn,
(c)
asesu a allai darparu—
(i)
gofal a chymorth,
(ii)
gwasanaethau ataliol, neu
(iii)
gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy,
gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau,
(d)
asesu a allai materion eraill gyfrannu at sicrhau’r canlyniadau hynny neu fel arall ddiwallu’r anghenion hynny, ac os felly, i ba raddau, ac
(e)
ystyried unrhyw amgylchiadau eraill sy’n effeithio ar lesiant y plentyn.
(5)
Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo wneud asesiad o anghenion o dan yr adran hon, gynnwys—
(a)
y plentyn, a
(b)
unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
(6)
Natur yr asesiad o anghenion sy’n ofynnol gan yr adran hon yw un y mae’r awdurdod lleol yn barnu ei fod yn gymesur o dan yr amgylchiadau, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad mewn rheoliadau o dan adran 30.
(7)
At ddibenion is-adran (1) rhagdybir bod angen gofal a chymorth ar blentyn anabl yn ychwanegol at, neu yn lle, y gofal a’r cymorth sy’n cael eu darparu gan deulu’r plentyn.
(8)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i blentyn sy’n derbyn gofal gan—
(a)
awdurdod lleol,
(b)
awdurdod lleol yn Lloegr,
(c)
awdurdod lleol yn yr Alban, neu
(d)
ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol.