RHAN 3ASESU ANGHENION UNIGOLION
Asesu oedolion
I1I220Gwrthod asesiad o anghenion ar gyfer oedolyn
1
Os yw oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gwrthod asesiad o’i anghenion o dan adran 19, nid yw’r ddyletswydd o dan yr adran honno i asesu anghenion yr oedolyn yn gymwys.
2
Ond nid yw gwrthodiad o dan is-adran (1) yn rhyddhau awdurdod lleol o’i ddyletswydd o dan adran 19 yn yr achosion a ganlyn—
ACHOS 1 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—
- a
nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad, ond
- b
bod person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn;
- a
ACHOS 2 - mae’r awdurdod lleol wedi ei fodloni, yn achos gwrthodiad a roddir gan yr oedolyn—
- a
nad oes gan yr oedolyn alluedd i benderfynu a wrthoda gael yr asesiad,
- b
nad oes person awdurdodedig i wneud y penderfyniad ar ran yr oedolyn, ac
- c
y byddai cael yr asesiad er lles pennaf yr oedolyn;
- a
ACHOS 3 - mae’r awdurdod lleol yn amau bod yr oedolyn yn cael, neu’n wynebu risg o gael, ei gam-drin neu ei esgeuluso.
3
Pan fo awdurdod lleol wedi ei ryddhau o’i ddyletswydd o dan adran 19 drwy wrthodiad o dan yr adran hon, ailymrwymir i’r ddyletswydd—
a
os yw’r oedolyn (neu, pan fo’n gymwys, person awdurdodedig) yn gofyn wedyn am asesiad, neu
b
os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod anghenion neu amgylchiadau’r oedolyn wedi newid,
(yn ddarostyngedig i unrhyw wrthodiad pellach o dan yr adran hon).
4
Yn yr adran hon ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i benderfynu a wrthoda asesiad o anghenion ar ran yr oedolyn neu a ofynna am asesiad o anghenion ar ei ran.