RHAN 1CYFLWYNIAD
Termau allweddol
2Ystyr “llesiant”
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben y Ddeddf hon.
(2)
Ystyr “llesiant”, o ran person, yw llesiant mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o’r canlynol—
(a)
iechyd corfforol, iechyd meddwl a llesiant emosiynol;
(b)
amddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod;
(c)
addysg, hyfforddiant a gweithgareddau hamdden;
(d)
perthnasoedd domestig, teuluol a phersonol;
(e)
cyfraniad a wneir at y gymdeithas;
(f)
sicrhau hawliau a hawlogaethau;
(g)
llesiant cymdeithasol ac economaidd;
(h)
addasrwydd llety preswyl.
(3)
O ran plentyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys—
(a)
datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol;
(b)
“lles” fel y diffinnir y term Saesneg cyfatebol “welfare” at ddibenion Deddf Plant 1989.
(4)
O ran oedolyn, mae “llesiant” hefyd yn cynnwys—
(a)
rheolaeth ar fywyd pob dydd;
(b)
cymryd rhan mewn gwaith.