RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

199Cychwyn

(1)

Daw’r darpariaethau canlynol i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

  • Rhan 1;

  • adran 196;

  • adran 197;

  • adran 198;

  • yr adran hon;

  • adran 200.

(2)

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

(3)

Caiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (2) bennu gwahanol ddiwrnodau at wahanol ddibenion.

(4)

Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (2) gychwyn y ddarpariaeth yn is-adrannau (1) a (2) o adran 32 cyn bod rheoliadau a wneir o dan is-adrannau (3) a (4) o’r adran honno wedi dod i rym.