RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
198Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—
(a)
unrhyw ddarpariaeth atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol, a
(b)
unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill)—
(a)
darparu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon sy’n dod i rym cyn bod unrhyw ddarpariaeth arall wedi dod i rym yn cael effaith, hyd nes y bydd y ddarpariaeth arall honno wedi dod i rym, gydag addasiadau penodedig;
(b)
diwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys un o ddarpariaethau’r Ddeddf hon) a basiwyd neu a wnaed ar neu cyn y dyddiad y caiff y Ddeddf hon ei phasio.
(3)
Nid oes dim yn yr adran hon sy’n cyfyngu’r pŵer yn rhinwedd adran 196(2) i gynnwys darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn gorchymyn o dan adran 199(2).