RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

I1197Dehongli cyffredinol a mynegai o ymadroddion a ddiffiniwyd

1

Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “anabl” (“disabled”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae “ardal Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board area”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • mae i “asesiad ariannol” (“financial assessment”) yr ystyr a roddir gan adran 63;

  • ystyr “asesiad o anghenion” (“needs assessment”) yw asesiad o dan Ran 3;

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu adran 28 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

  • ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw—

    1. a

      cyngor sir yn Lloegr,

    2. b

      cyngor dosbarth ar gyfer ardal yn Lloegr lle nad oes cyngor sir,

    3. c

      cyngor bwrdeistref yn Llundain, neu

    4. d

      Cyngor Cyffredin Dinas Llundain;

  • ystyr “awdurdod lleol yn yr Alban” (“local authority in Scotland”) yw cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994;

  • mae “Bwrdd Cenedlaethol” (“National Board”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • ystyr “Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Commissioning Board”) yw’r corff a sefydlwyd o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “camdriniaeth” a “cam-drin” (“abuse”) yw camdriniaeth gorfforol, rhywiol, seicolegol, emosiynol neu ariannol (ac mae’n cynnwys camdriniaeth sy’n digwydd mewn unrhyw leoliad, p’un ai mewn annedd breifat, mewn sefydliad neu mewn unrhyw fan arall), ac mae “camdriniaeth ariannol” (“financial abuse”) yn cynnwys y canlynol—

    1. a

      bod arian neu eiddo arall person yn cael ei ddwyn;

    2. b

      bod person yn cael ei dwyllo;

    3. c

      bod person yn cael ei roi o dan bwysau mewn perthynas ag arian neu eiddo arall;

    4. d

      bod arian neu eiddo arall person yn cael ei gamddefnyddio;

  • mae “carchar” (“prison”) wedi ei ddiffinio—

    1. a

      at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1),

    2. b

      at ddibenion adran 134, gan adran 134(11), ac

    3. c

      at ddibenion adran 162, gan adran 162(11);

  • mae i “cartref cymunedol” (“community home”) a “cartref cymunedol a reolir” (“controlled community home”) yr ystyron a roddir i “community home” a “controlled community home” gan adran 53 o Ddeddf Plant 1989;

  • mae i “cartref gofal” (“care home”) yr ystyr a roddir i “care home” yn Neddf Safonau Gofal 2000;

  • ystyr “cartref plant” (“children’s home”), ac eithrio yn adran 86, yw cartref plant o fewn ystyr “children’s home” yn Neddf Safonau Gofal 2000 y mae person wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno;

  • ystyr “cartref plant preifat” (“private children’s home”) yw cartref plant nad yw’n—

    1. a

      cartref cymunedol, na

    2. b

      cartref gwirfoddol (o fewn yr ystyr a roddir i “voluntary home” gan adran 60 o Ddeddf Plant 1989);

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” (“parental responsibility”) yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 o Ddeddf Plant 1989;

  • ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw—

    1. a

      ac eithrio yn adrannau 140(2)(b), 172(7) a 198(2)(b), darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu rai o’r canlynol (pa bryd bynnag y byddant wedi eu deddfu neu eu gwneud)—

      1. i

        Deddf Seneddol;

      2. ii

        Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

      3. iii

        Deddf Senedd yr Alban;

      4. iv

        deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn ystyr “Northern Ireland legislation” yn Neddf Dehongli 1978);

      5. v

        is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiad sy’n dod o fewn is-baragraffau (i) i (iv);

    2. b

      yn adrannau 140(2)(b), 172(7) a 198(2)(b), darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn unrhyw un neu rai o’r canlynol (pa bryd bynnag y byddant wedi eu deddfu neu eu gwneud)—

      1. i

        Deddf Seneddol;

      2. ii

        Deddf neu Fesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

      3. iii

        is-ddeddfwriaeth a wneir o dan ddeddfiad sy’n dod o fewn is-baragraff (i) neu (ii);

  • ystyr “esgeulustod” (“neglect”) yw methiant i ddiwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol sylfaenol person, sy’n debygol o arwain at amharu ar lesiant y person (er enghraifft, amharu ar iechyd y person neu, yn achos plentyn, amharu ar ddatblygiad y plentyn);

  • mae “ffi safonol” (“standard charge”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 5 gan adran 63(3);

  • mae i “gofal a chymorth” (“care and support”) yr ystyr a roddir gan adran 4;

  • mae i “gofalwr” (“carer”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • ystyr “grŵp comisiynu clinigol” (“clinical commissioning group”) yw corff a sefydlir o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae i “gwarcheidwad arbennig” (“special guardian”) a “gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig” (“special guardianship order”) yr ystyr a roddir i “special guardian” a “special guardianship order” gan adran 14A o Ddeddf Plant 1989;

  • mae “gwasanaethau” (“services”) yn cynnwys cyfleusterau;

  • mae i “llesiant” (“well-being”) yr ystyr a roddir gan adran 2;

  • mae “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) wedi ei ddiffinio at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1);

  • mae “magwraeth” (“upbringing”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys gofal dros y plentyn ond nid cynhaliaeth y plentyn;

  • mae “mangre a gymeradwywyd” (“approved premises”) wedi ei ddiffinio at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1);

  • mae “mechnïaeth mewn achos troseddol” (“bail in criminal proceedings”) wedi ei ddiffinio at ddibenion adrannau 185 i 187 gan adran 188(1);

  • ystyr “meini prawf cymhwystra” (“eligibility criteria”) yw meini prawf a osodir o dan adran 32;

  • ystyr “niwed” (“harm”), mewn perthynas â phlentyn, yw camdriniaeth neu nam ar—

    1. a

      iechyd corfforol neu iechyd meddwl, neu

    2. b

      datblygiad corfforol, deallusol, emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiadol,

    a phan fo’r cwestiwn a yw’r niwed yn sylweddol yn troi ar iechyd neu ddatblygiad y plentyn, mae iechyd neu ddatblygiad y plentyn i’w gymharu â’r hyn y gellid ei ddisgwyl yn rhesymol gan blentyn tebyg;

  • mae i “oedolyn” (“adult”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • mae “partner Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board partner”) wedi ei ddiffinio at ddibenion Rhan 7 gan adran 142;

  • ystyr “penodedig”, “a bennir” ac “a bennwyd” (“specified”) ac ymadroddion cytras, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, yw penodedig mewn rheoliadau;

  • ystyr “perthynas” (“relative”), mewn perthynas â phlentyn, yw llys-riant, tad-cu/taid, mam-gu/nain, brawd, chwaer, ewythr neu fodryb (gan gynnwys unrhyw berson sydd yn y berthynas honno yn rhinwedd priodas neu bartneriaeth sifil neu berthynas deuluol barhaus);

  • mae i “plentyn” (“child”) yr ystyr a roddir gan adran 3;

  • ystyr “rheoliadau” (“regulations”), ac eithrio mewn perthynas ag adran 101, yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “rhiant maeth awdurdod lleol” (“local authority foster parent”) yw person sydd wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd adran 93;

  • ystyr “sefydliad gwirfoddol” (“voluntary organisation”) yw corff (ac eithrio corff cyhoeddus neu breifat) nad yw ei weithgareddau’n cael eu cynnal er mwyn gwneud elw;

  • mae i “swyddog achosion teuluol Cymru” (“Welsh family proceedings officer”) yr ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” gan adran 35 o Ddeddf Plant 2004;

  • ystyr “swyddogaeth” (“function”) yw pŵer neu ddyletswydd;

  • mae i “swyddogaethau addysg” (“education functions”) yr ystyr a roddir i “education functions” gan adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996;

  • mae i “terfyn ariannol” (“financial limit”) yr ystyr a roddir gan adran 66(5);

  • mae “teulu” (“family”), mewn perthynas â phlentyn, yn cynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i) unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn ac unrhyw berson arall y mae’r plentyn wedi bod yn byw gydag ef;

  • ystyr “tîm troseddwyr ifanc” (“youth offending team”) yw tîm a sefydlir o dan adran 39 o Ddeddf Trosedd ac Anrhefn 1998;

  • ystyr “Ymddiriedolaeth GIG” (“NHS Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol” (“Health and Social Care trust”) yw ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1991 (O.S. 1991/194 (N.I. 1));

  • mae i “Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG” (“NHS Foundation Trust”) yr ystyr a roddir i “NHS Foundation Trust” gan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

  • mae i “ysbyty” (“hospital”) yr ystyr a roddir i “hospital” gan adran 206 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • mae i “ysbyty annibynnol” (“independent hospital”)—

    1. a

      o ran Cymru, yr ystyr a roddir i “independent hospital” gan adran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a

    2. b

      o ran Lloegr, yr ystyr a roddir i “hospital” fel y’i diffinnir gan adran 275 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 nad yw’n ysbyty gwasanaeth iechyd fel y diffinnir “health service hospital” gan yr adran honno.

2

Yn y Ddeddf hon—

a

mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yr ystyr a roddir gan adran 74;

b

mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn Lloegr yr ystyr a roddir i gyfeiriad yn Neddf Plant 1989 at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ar gyfer ardal yn Lloegr (gweler adran 22 o’r Ddeddf honno);

c

mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn yr Alban yr un ystyr â chyfeiriad ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 at blentyn sy’n derbyn gofal (“looked after”) gan awdurdod lleol (gweler adran 17(6) o’r Ddeddf honno);

d

mae i gyfeiriad at blentyn sy’n derbyn gofal gan ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr un ystyr â chyfeiriad yng Ngorchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (O.S. 1995/755 (N.I. 2)) at blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod (gweler erthygl 25 o’r Gorchymyn hwnnw).

3

Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at blentyn sydd yng ngofal awdurdod lleol yn gyfeiriad at blentyn sydd o dan ei ofal yn rhinwedd gorchymyn gofal (o fewn yr ystyr a roddir i “care order” gan Neddf Plant 1989).

4

Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn gyfeiriad at lety a ddarperir felly wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod hwnnw neu unrhyw awdurdod lleol arall sy’n swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

5

Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at y ffaith bod gan, neu nad oes gan, berson alluedd mewn perthynas â mater i’w ddehongli fel cyfeiriad at y ffaith bod gan, neu nad oes gan, berson alluedd o fewn ystyr “capacity” yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005 mewn perthynas â’r mater hwnnw.

6

Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at gael awdurdodiad o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn gyfeiriad at gael awdurdodiad fel—

a

rhoddai atwrneiaeth arhosol a grëwyd o dan y Ddeddf honno, neu

b

dirprwy a benodwyd gan y Llys Gwarchod o dan adran 16(2)(b) o’r Ddeddf honno.

7

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu bod Cyngor Ynysoedd Scilly i’w drin fel awdurdod lleol yn Lloegr at ddibenion y Ddeddf hon, neu at ddibenion darpariaethau penodol y Ddeddf hon, gydag unrhyw addasiadau a bennir.