RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
I1196Gorchmynion a rheoliadau
1
Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.
2
Mae pŵer i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—
a
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o achosion, ardaloedd gwahanol neu at ddibenion gwahanol;
b
i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu’n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodol neu ddim ond mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol o achos;
c
i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.
3
Nid yw is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i orchymyn y caniateir i lys neu ynad heddwch ei wneud.
4
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
5
Nid yw is-adran (4) yn gymwys i reoliadau y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt.
6
Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys y rheoliadau neu’r gorchmynion canlynol (p’un ai ar eu pennau eu hunain neu ar y cyd â darpariaeth arall) gael ei wneud onid oes drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—
a
rheoliadau o dan adran 3(6), 16(3), 18(3), 32, 37(1), 40(1), 42(1), 119, 127(9), 135(4), 166, 167(3), 168 neu 181;
b
gorchymyn o dan adran 140 neu 143(2);
c
rheoliadau o dan adran 198 sy’n diwygio neu ddiddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol neu mewn un o Fesurau neu Ddeddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
F1d
y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 144A(2)(b);
(gweler adrannau 33 a 141 am ofynion pellach mewn perthynas â gwneud rheoliadau o dan adran 32 a gorchmynion o dan adran 140).
7
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir gan yr Arglwydd Ganghellor o dan adran 101 yn ddarostyngedig i’w ddirymu yn unol â phenderfyniad gan y naill neu’r llall o ddau Dŷ’r Senedd.