RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Atodol

F1195A.Troseddau a gyflawnir gan gyrff neu bartneriaethau

(1)

Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Ddeddf hon, a phrofir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)

unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall yn y corff corfforaethol; neu

(b)

unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

mae’r person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(2)

At ddibenion yr adran hon, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau yw aelod o’r corff corfforaethol.

(3)

Mae achos am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni o dan y Ddeddf hon gan gorff anghorfforedig i gael ei ddwyn yn enw’r corff hwnnw (ac nid yn enw unrhyw un neu rai o’i aelodau) ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorfforaeth.

(4)

Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig pan y’i collfernir o drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu allan o gronfeydd y corff hwnnw.

(5)

Os caiff corff anghorfforedig ei gyhuddo o drosedd o dan y Ddeddf hon, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn cael effaith fel pe bai corfforaeth wedi ei chyhuddo.

(6)

Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan gorff anghorfforedig (ac eithrio partneriaeth) wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw swyddog o’r corff neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o’r fath neu unrhyw aelod o’r fath, mae’r person hwnnw yn ogystal â’r corff yn euog o drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

(7)

Pan brofir bod trosedd o dan y Ddeddf hon a gyflawnir gan bartneriaeth neu bartneriaeth yn yr Alban wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner hwnnw (yn ogystal â’r bartneriaeth) yn euog o’r drosedd ac yn agored i achos gael ei ddwyn yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.