RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Atodol

195Anghydfodau ynghylch preswylfa arferol a hygludedd gofal a chymorth

(1)

Mae anghydfod rhwng awdurdodau lleol ynghylch ble y mae person yn preswylio fel arfer yng Nghymru at ddibenion y Ddeddf hon, neu anghydfod rhwng awdurdod anfon ac awdurdod derbyn o dan adran 56 ynghylch cymhwyso’r adran honno mewn perthynas â pherson, i’w ddyfarnu arno gan—

(a)

Gweinidogion Cymru, neu

(b)

person a benodir gan Weinidogion Cymru at y ddiben hwnnw (“person penodedig”).

F1(1A)

Pan fo anghydfod yn un y mae adran 30(2C) o Ddeddf Plant 1989 yn gymwys iddo (cwestiynau ynghylch pa un a yw plentyn yn preswylio fel arfer yng Nghymru neu Loegr), yna nid yw is-adran (1) yn gymwys.

(2)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch datrys anghydfodau o’r math a grybwyllwyd yn is-adran (1); caiff y rheoliadau wneud, er enghraifft—

(a)

darpariaeth i sicrhau bod gofal a chymorth yn cael eu darparu i berson tra bo anghydfod heb ei ddatrys;

(b)

darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol mewn anghydfod gymryd camau penodedig cyn cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

(c)

darpariaeth ynghylch y weithdrefn ar gyfer cyfeirio anghydfod at Weinidogion Cymru neu berson penodedig;

(d)

darpariaeth ynghylch adolygu dyfarniad a wneir o dan is-adran (1).