RHAN 11LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

AtodolLL+C

194Preswylfa arferolLL+C

(1)Pan fo gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth nad oes modd eu diwallu ond os yw’n byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau a bod yr oedolyn yn byw mewn llety yng Nghymru o fath a bennir felly, mae’r oedolyn i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

(a)yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir yn y rheoliadau, neu

(b)os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn iddo ddechrau byw mewn llety o fath a bennir felly, yn yr ardal lle’r oedd yr oedolyn yn bresennol bryd hynny.

(2)Pan fo oedolyn, cyn iddo ddechrau byw yn ei lety presennol, yn byw mewn llety o fath a bennir felly (p’un a yw’r llety o’r un fath â’r llety presennol ai peidio), mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(a) at y cyfnod y dechreuodd yr oedolyn fyw mewn llety o fath a bennir felly yn gyfeiriad at ddechrau’r cyfnod y mae’r oedolyn wedi bod yn byw mewn llety o un neu fwy o’r mathau a bennir am gyfnodau olynol.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i ddyfarnu at ddibenion is-adran (1) a oes gan oedolyn anghenion am ofal a chymorth na ellir eu diwallu ond os yw’r oedolyn yn byw mewn llety o fath a bennir mewn rheoliadau.

(4)Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan ddeddfiad iechyd i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer—

(a)yn yr ardal lle’r oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, neu

(b)os oedd heb breswylfa sefydlog yn union cyn i’r llety gael ei ddarparu, yn yr ardal lle’r oedd y person yn bresennol bryd hynny.

[F1(4A)Mae person y mae llety’n cael ei ddarparu iddo o dan adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ôl-ofal) i’w drin at ddibenion y Ddeddf hon fel un sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol, neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, y mae’r ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau i’r person hwnnw o dan yr adran honno wedi ei gosod arno.]

(5)Yn is-adran (4) ystyr “deddfiad iechyd” yw—

(a)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

(b)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(c)Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

(d)Gorchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972 (O.S. 1972/1265 (N.I. 14));

(e)Deddf (Diwygio) Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 2009.

(6)Wrth ddyfarnu preswylfa arferol plentyn at ddibenion y Ddeddf hon, mae preswylfa’r plentyn yn y mannau a ganlyn i’w ddiystyru—

(a)ysgol neu sefydliad arall;

(b)man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn goruchwylio o dan Ddeddf Plant 1989;

(c)man lle y lleolir y plentyn yn unol â gofynion gorchymyn adsefydlu ieuenctid [F2ym Mhennod 1 o Ran 9 o'r Cod Dedfrydu];

(d)llety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr;

(e)man a bennir mewn rheoliadau.

(7)Gweler hefyd adrannau 185(1) i (3) a 186(2) am ddarpariaeth o ran preswylfa arferol personau sydd mewn carchar, llety cadw ieuenctid neu lety mechnïaeth etc.

[F3(8)Am ddarpariaeth ynghylch lleoliadau trawsffiniol i Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, gweler Atodlen 1 i Ddeddf Gofal 2014.]

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn a. 194(6)(c) wedi eu hamnewid (1.12.2020) gan Sentencing Act 2020 (c. 17), a. 416(1), Atod. 24 para. 305(2) (ynghyd ag Atod. 27); O.S. 2020/1236, rhl. 2

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 194 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 194 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)