188Dehongli adrannau 185 i 187LL+C
(1)Yn adrannau 185 i 187—
mae i “carchar” yr ystyr a roddir i “prison” yn Neddf Carchardai 1952 (gweler adran 53(1) o’r Ddeddf honno);
ystyr “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) yw—
(a)[F1gwasanaeth llety diogel (o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016);]
(b)canolfan hyfforddi ddiogel;
(ba)[F2coleg diogel;]
(d)sefydliad troseddwyr ifanc;
(e)llety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at y diben o gyfyngu ar ryddid plant;
(f)llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro drwy orchymyn o dan adran 107(1)(e) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi);
mae i “mangre a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved premises” gan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007;
mae i “mechnïaeth mewn achos troseddol” yr ystyr a roddir i “bail in criminal proceedings” gan adran 1 o Ddeddf Mechnïaeth 1976.
(2)At ddibenion adrannau 185 i 187—
(a)mae person sy’n absennol dros dro o garchar neu lety cadw ieuenctid i’w drin fel pe bai’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid am gyfnod yr absenoldeb;
(b)mae person sy’n absennol dros dro o fangre a gymeradwywyd i’w drin fel pe bai’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd am gyfnod yr absenoldeb;
(c)mae person sy’n absennol dros dro o fangre arall y mae’n ofynnol i’r person breswylio ynddi fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol i’w drin fel pe bai’n preswylio yn y fangre am gyfnod yr absenoldeb.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 188(1) wedi eu hamnewid (2.4.2018) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), a. 188(1), Atod. 3 para. 32; O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(h), Atod. (ynghyd ag ergl. 6)
F2Geiriau yn a. 188(1)(ba) wedi eu mewnosod (20.3.2015) gan Criminal Justice and Courts Act 2015 (c. 2), a. 95(1), Atod. 9 para. 32(5); O.S. 2015/778, ergl. 2(1)(c)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 188 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)