RHAN 11AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Amrywiol

I1188Dehongli adrannau 185 i 187

1

Yn adrannau 185 i 187—

  • mae i “carchar” yr ystyr a roddir i “prison” yn Neddf Carchardai 1952 (gweler adran 53(1) o’r Ddeddf honno);

  • ystyr “llety cadw ieuenctid” (“youth detention accommodation”) yw—

    1. a

      cartref diogel i blant;

    2. b

      canolfan hyfforddi ddiogel;

    3. ba

      F1coleg diogel;

    4. d

      sefydliad troseddwyr ifanc;

    5. e

      llety sy’n cael ei ddarparu, ei gyfarparu a’i gynnal gan Weinidogion Cymru o dan adran 82(5) o Ddeddf Plant 1989 at y diben o gyfyngu ar ryddid plant;

    6. f

      llety, neu lety o ddisgrifiad, a bennir am y tro drwy orchymyn o dan adran 107(1)(e) o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (llety cadw ieuenctid at ddibenion gorchmynion cadw a hyfforddi);

  • mae i “mangre a gymeradwywyd” yr ystyr a roddir i “approved premises” gan adran 13 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007;

  • mae i “mechnïaeth mewn achos troseddol” yr ystyr a roddir i “bail in criminal proceedings” gan adran 1 o Ddeddf Mechnïaeth 1976.

2

At ddibenion adrannau 185 i 187—

a

mae person sy’n absennol dros dro o garchar neu lety cadw ieuenctid i’w drin fel pe bai’n cael ei gadw’n gaeth mewn carchar neu lety cadw ieuenctid am gyfnod yr absenoldeb;

b

mae person sy’n absennol dros dro o fangre a gymeradwywyd i’w drin fel pe bai’n preswylio mewn mangre a gymeradwywyd am gyfnod yr absenoldeb;

c

mae person sy’n absennol dros dro o fangre arall y mae’n ofynnol i’r person breswylio ynddi fel amod o roi mechnïaeth mewn achos troseddol i’w drin fel pe bai’n preswylio yn y fangre am gyfnod yr absenoldeb.