(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—
(a)â’u swyddogaethau o dan y Ddeddf hon,
(b)â’r swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12),
(c)â swyddogaethau’r Byrddau Iechyd Lleol o dan y Ddeddf hon, neu
(d)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.
(2)Caiff awdurdod lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig—
(a)ag unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), neu
(b)â swyddogaethau’r Byrddau Diogelu.
(3)Caiff Bwrdd Iechyd Lleol wneud, comisiynu, neu gynorthwyo i wneud, ymchwil i unrhyw fater sy’n gysylltiedig â’i swyddogaethau o dan y Ddeddf hon.
(4)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—
(a)â’r modd y mae’r awdurdod yn cyflawni unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (12), a
(b)â’r personau y mae’r awdurdod wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.
(5)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad—
(a)â’r modd y mae’n cyflawni ei swyddogaethau o dan y Ddeddf hon, a
(b)â’r personau y mae wedi arfer y swyddogaethau hynny mewn perthynas â hwy.
(6)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i bartner arweiniol Bwrdd Diogelu ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad â’r modd y mae’r Bwrdd hwnnw yn cyflawni ei swyddogaethau.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i sefydliad gwirfoddol ddarparu gwybodaeth iddynt mewn cysylltiad ag oedolion sydd wedi eu lletya gan y sefydliad neu ar ei ran.
(8)Rhaid cydymffurfio â gofyniad o dan is-adran (4), (5), (6) neu (7) drwy ddarparu’r wybodaeth ar unrhyw ffurf ac ar unrhyw adeg sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(9)Caiff yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu o dan is-adran (4) gynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â phlant unigol ac sy’n golygu bod modd adnabod plant unigol, ond dim ond os oes angen yr wybodaeth honno er mwyn llywio—
(a)y broses o adolygu a datblygu polisi ac arfer sy’n ymwneud â llesiant plant, neu
(b)y broses o wneud ymchwil sy’n ymwneud â llesiant plant.
(10)Rhaid i Weinidogion Cymru ym mhob blwyddyn osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru grynodeb o’r wybodaeth a ddarperir iddynt o dan is-adrannau (4), (5), (6) a (7), ond rhaid i’r crynodeb beidio â chynnwys gwybodaeth sy’n golygu bod modd adnabod plentyn unigol neu sy’n caniatáu i blentyn unigol gael ei adnabod.
(11)Yn yr adran hon—
ystyr “Bwrdd Diogelu” (“Safeguarding Board”) yw Bwrdd Diogelu Plant neu Fwrdd Diogelu Oedolion a sefydlir o dan adran 134, ac
ystyr “partner arweiniol Bwrdd Diogelu” (“the lead partner of a Safeguarding Board”) yw’r partner Bwrdd Diogelu a bennir fel y partner arweiniol mewn rheoliadau o dan adran 134.
(12)Y swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-adrannau (1), (2) a (4) yw—
(a)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon;
(b)unrhyw swyddogaeth awdurdod lleol fel partner iechyd meddwl lleol o dan Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.