RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI
PENNOD 3GWASANAETHAU EIRIOLI
I2I1182Darparu gwasanaethau eirioli: cyfyngiadau
1
Ni chaiff rheoliadau o dan adran 181 ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i berson—
a
at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person yn rhinwedd rheoliadau o dan adran 173;
b
at y diben o gyflwyno sylwadau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy ar gyfer darparu cynhorthwy i’r person o dan adran 178;
c
at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr iechyd meddwl annibynnol i fod ar gael o dan adran 130E o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983;
d
e
at ddibenion y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hwy i alluogi eiriolwr galluedd meddyliol annibynnol i fod ar gael o dan adran 35 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005;
f
at y diben o wneud cwyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau mewn cysylltiad â hi ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 187 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.
2
Pan—
a
bo gwasanaethau eirioli yn cael eu darparu ar gyfer person o dan adran 15, 17, 35, 36, 37 neu 38, a
b
byddai rheoliadau o dan adran 181 (ar wahân i’r is-adran hon) yn gosod gofyniad ar awdurdod lleol i roi gwasanaethau eirioli ar gael i’r person hwnnw mewn cysylltiad â’r un materion,
nid yw’r gofyniad hwnnw yn gymwys.