RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI
PENNOD 3GWASANAETHAU EIRIOLI
181Darparu gwasanaethau eirioli
(1)
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol drefnu i wasanaethau eirioli gael eu rhoi ar gael i bobl y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth (p’un a yw’r anghenion hynny yn cael eu diwallu gan awdurdod lleol ai peidio); mae hyn yn ddarostyngedig i adran 182.
(2)
Mae “gwasanaethau eirioli” yn wasanaethau sy’n darparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau at ddibenion sy’n ymwneud â’u gofal a chymorth.
(3)
Caiff y rheoliadau bennu—
(a)
y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael iddynt;
(b)
yr amgylchiadau y mae gwasanaethau eirioli i gael eu rhoi ar gael odanynt;
(c)
y personau, neu ddisgrifiad o’r personau, y caniateir, neu na chaniateir, i wasanaethau eirioli gael eu darparu ganddynt.
(4)
Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer rhoi gwasanaethau eirioli ar gael.