RHAN 2SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

Trefniadau lleol

18Cofrestrau o bobl â nam ar eu golwg, pobl â nam ar eu clyw a phobl anabl eraill

(1)

Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o’r bobl sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod ac—

(a)

sydd â nam ar eu golwg neu nam difrifol ar eu golwg,

(b)

sydd â nam ar eu clyw neu nam difrifol ar eu clyw, neu

(c)

sydd â nam ar eu golwg ac ar eu clyw sydd, gyda’i gilydd, yn cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd.

(2)

Rhaid i’r gofrestr nodi, mewn cysylltiad â phob person sydd wedi ei gynnwys yn y gofrestr—

(a)

y paragraff yn is-adran (1) y mae’r person hwnnw yn dod o’i fewn, a

(b)

amgylchiadau ieithyddol y person.

(3)

Caiff rheoliadau bennu, at ddibenion is-adran (1), gategorïau o bobl sydd i’w trin, neu nad ydynt i’w trin, fel pe baent yn dod o fewn paragraff (a), (b) neu (c) o’r is-adran honno.

(4)

Rhaid i awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o blant y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd o fewn ardal yr awdurdod lleol.

(5)

Caiff awdurdod lleol lunio a chynnal cofrestr o oedolion y mae is-adran (6) yn gymwys iddynt ac sydd yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol.

(6)

Mae’r is-adran hon yn gymwys i berson—

(a)

sy’n anabl,

(b)

nad yw’n anabl ond y mae ganddo nam corfforol neu feddyliol sy’n arwain, neu y mae’r awdurdod yn barnu y gall yn y dyfodol arwain, at anghenion am ofal a chymorth, neu

(c)

sy’n dod o fewn unrhyw gategori arall o bersonau y mae’r awdurdod yn barnu ei bod yn briodol ei gynnwys mewn cofrestr o bersonau y mae arnynt, neu y mae’r awdurdod yn ystyried y gall fod arnynt yn y dyfodol, anghenion am ofal a chymorth.

(7)

O ran awdurdod lleol—

(a)

caiff gategoreiddio pobl sydd wedi eu cynnwys mewn cofrestr o dan is-adran (4) neu (5) fel y gwêl yn dda, a

(b)

rhaid iddo nodi amgylchiadau ieithyddol y bobl hynny yn y gofrestr berthnasol.

(8)

Caniateir i’r cofrestrau a lunnir ac a gedwir o dan yr adran hon gael eu defnyddio wrth arfer swyddogaethau’r awdurdod; er enghraifft, er mwyn—

(a)

cynllunio’r modd y mae’r awdurdod yn darparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion am ofal a chymorth neu gymorth i ofalwyr, a

(b)

monitro newidiadau dros amser yn nifer y bobl yn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a’r mathau o anghenion sydd ganddynt hwy neu eu gofalwyr.

(9)

Nid oes dim yn yr adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gynnwys unrhyw berson mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon oni bai—

(a)

bod y person wedi gwneud cais i gael ei gynnwys yn y gofrestr, neu

(b)

bod cais i’w gynnwys felly wedi ei wneud ar ran y person.

(10)

Pan fo awdurdod lleol yn cynnwys person mewn cofrestr a gedwir o dan yr adran hon—

(a)

rhaid i’r awdurdod hysbysu’r person ei fod wedi ei gynnwys felly, a

(b)

os gwneir cais gan y person neu ar ran y person, rhaid i’r awdurdod ddileu o’r gofrestr unrhyw ddata personol (o fewn ystyr “personal data” yn Neddf Diogelu Data 1998) sy’n ymwneud â’r person hwnnw.