Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

178Cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy—

(a)i blant sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 174, a

(b)i bersonau sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 176.

(2)Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn cynnwys dyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy pan fo’r sylwadau hynny yn cael eu hystyried ymhellach o dan adran 177.

(3)Rhaid i’r cynhorthwy a ddarperir o dan y trefniadau gynnwys cynhorthwy ar ffurf cynrychiolaeth.

(4)Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â’r trefniadau.

(5)O ran y rheoliadau—

(a)rhaid iddynt ei gwneud yn ofynnol bod y trefniadau yn sicrhau nad yw personau penodedig neu gategorïau penodedig o bersonau yn darparu cynhorthwy, a

(b)caniateir iddynt osod gofynion eraill mewn perthynas â’r trefniadau.

(6)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro’r camau y maent wedi eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion a osodir gan neu o dan yr adran hon.

(7)Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 178 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 178 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)