RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI
PENNOD 1CWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL
178Cynhorthwy i bersonau sy’n cyflwyno sylwadau
(1)
Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy—
(a)
i blant sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 174, a
(b)
i bersonau sy’n cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, sylwadau sy’n dod o fewn adran 176.
(2)
Mae’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn cynnwys dyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy pan fo’r sylwadau hynny yn cael eu hystyried ymhellach o dan adran 177.
(3)
Rhaid i’r cynhorthwy a ddarperir o dan y trefniadau gynnwys cynhorthwy ar ffurf cynrychiolaeth.
(4)
Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth bellach mewn perthynas â’r trefniadau.
(5)
O ran y rheoliadau—
(a)
rhaid iddynt ei gwneud yn ofynnol bod y trefniadau yn sicrhau nad yw personau penodedig neu gategorïau penodedig o bersonau yn darparu cynhorthwy, a
(b)
caniateir iddynt osod gofynion eraill mewn perthynas â’r trefniadau.
(6)
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro’r camau y maent wedi eu cymryd er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion a osodir gan neu o dan yr adran hon.
(7)
Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’w drefniadau ar gyfer darparu cynhorthwy o dan yr adran hon.