RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 1CWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL

I1I2177Rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau

1

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau (gan gynnwys cwynion) sy’n dod o fewn adran 174 neu 176.

2

Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth—

a

ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylw gan banel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;

b

ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth roi ystyriaeth bellach i sylw;

c

ar gyfer cyflwyno argymhellion ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;

d

ynghylch llunio adroddiadau am roi ystyriaeth bellach i sylw;

e

ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol o dan sylw o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;

f

bod sylw yn cael ei gyfeirio yn ôl at yr awdurdod lleol o dan sylw er mwyn i’r awdurdod ei ailystyried.

3

Caiff y rheoliadau—

a

ei gwneud yn ofynnol bod taliad yn cael ei wneud, mewn perthynas â’r ystyriaeth bellach a roddir i sylw, gan awdurdod lleol y mae’r sylw wedi ei wneud amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;

b

ei gwneud yn ofynnol bod y taliad—

i

yn cael ei wneud i berson neu gorff a bennir yn y rheoliadau, a

ii

yn swm a bennir yn y rheoliadau, neu’n un a gyfrifir neu a ddyfernir oddi tanynt;

c

ei gwneud yn ofynnol i banel annibynnol adolygu’r swm y gellir ei godi o dan baragraff (a) mewn achos penodol a rhoi, os gwêl y panel yn dda, swm llai yn ei le;

d

darparu bod gwahanol rannau o sylw neu agweddau gwahanol arno yn cael eu trin yn wahanol;

e

ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth neu ddogfennau yn cael eu dangos er mwyn galluogi sylw i gael ei ystyried yn briodol;

f

awdurdodi bod gwybodaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i sylw yn cael ei datgelu neu eu datgelu i berson neu gorff sy’n rhoi ystyriaeth bellach i sylw o dan y rheoliadau (er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a fyddai, fel arall, yn gwahardd y datgeliad neu’n cyfyngu arno).

4

Caiff y rheoliadau ddarparu hefyd bod sylw neu unrhyw fater a godir gan sylw—

a

yn cael ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r sylw neu’r mater o dan F1Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (ac yn cael ei drin gan yr Ombwdsmon fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan F2adran 3(3) o’r Ddeddf honno);

b

yn cael ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff er mwyn i’r person hwnnw neu’r corff hwnnw ystyried p’un a ydynt yn mynd i gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai i’w cymryd o dan y rheoliadau.