xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylwadau (gan gynnwys cwynion) sy’n dod o fewn adran 174 neu 176.
(2)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth—
(a)ar gyfer rhoi ystyriaeth bellach i sylw gan banel annibynnol a sefydlwyd o dan y rheoliadau;
(b)ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn wrth roi ystyriaeth bellach i sylw;
(c)ar gyfer cyflwyno argymhellion ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;
(d)ynghylch llunio adroddiadau am roi ystyriaeth bellach i sylw;
(e)ynghylch y camau gweithredu sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol o dan sylw o ganlyniad i roi ystyriaeth bellach i sylw;
(f)bod sylw yn cael ei gyfeirio yn ôl at yr awdurdod lleol o dan sylw er mwyn i’r awdurdod ei ailystyried.
(3)Caiff y rheoliadau—
(a)ei gwneud yn ofynnol bod taliad yn cael ei wneud, mewn perthynas â’r ystyriaeth bellach a roddir i sylw, gan awdurdod lleol y mae’r sylw wedi ei wneud amdano mewn cysylltiad â’i swyddogaethau;
(b)ei gwneud yn ofynnol bod y taliad—
(i)yn cael ei wneud i berson neu gorff a bennir yn y rheoliadau, a
(ii)yn swm a bennir yn y rheoliadau, neu’n un a gyfrifir neu a ddyfernir oddi tanynt;
(c)ei gwneud yn ofynnol i banel annibynnol adolygu’r swm y gellir ei godi o dan baragraff (a) mewn achos penodol a rhoi, os gwêl y panel yn dda, swm llai yn ei le;
(d)darparu bod gwahanol rannau o sylw neu agweddau gwahanol arno yn cael eu trin yn wahanol;
(e)ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth neu ddogfennau yn cael eu dangos er mwyn galluogi sylw i gael ei ystyried yn briodol;
(f)awdurdodi bod gwybodaeth neu ddogfennau sy’n berthnasol i sylw yn cael ei datgelu neu eu datgelu i berson neu gorff sy’n rhoi ystyriaeth bellach i sylw o dan y rheoliadau (er gwaethaf unrhyw reol cyfraith gyffredin a fyddai, fel arall, yn gwahardd y datgeliad neu’n cyfyngu arno).
(4)Caiff y rheoliadau ddarparu hefyd bod sylw neu unrhyw fater a godir gan sylw—
(a)yn cael ei gyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”) er mwyn i’r Ombwdsmon ystyried p’un a yw’n mynd i ymchwilio i’r sylw neu’r mater o dan [F1Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019] (ac yn cael ei drin gan yr Ombwdsmon fel cwyn a gyfeiriwyd yn briodol o dan [F2adran 3(3)] o’r Ddeddf honno);
(b)yn cael ei gyfeirio at unrhyw berson neu gorff er mwyn i’r person hwnnw neu’r corff hwnnw ystyried p’un a ydynt yn mynd i gymryd unrhyw gamau nad ydynt yn rhai i’w cymryd o dan y rheoliadau.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 177(4)(a) wedi eu hamnewid (23.7.2019) gan Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (anaw 3), a. 77(1), Atod. 5 para. 27(a); O.S. 2019/1096, rhl. 2
F2Geiriau yn a. 177(4)(a) wedi eu hamnewid (23.7.2019) gan Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (anaw 3), a. 77(1), Atod. 5 para. 27(b); O.S. 2019/1096, rhl. 2
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 177 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)