RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 1CWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL

176Sylwadau sy’n ymwneud â phlant a fu gynt yn derbyn gofal etc

(1)

Rhaid i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sylwadau (gan gynnwys cwynion) a gyflwynir iddo gan bersonau y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 3 i 7 mewn perthynas â’r personau hynny.

(2)

Mae’r is-adran hon yn gymwys i—

(a)

personau ifanc categori 2;

(b)

personau ifanc categori 3;

(c)

personau ifanc categori 4;

(d)

personau ifanc categori 5;

(e)

personau ifanc categori 6;

(f)

personau o dan 25 oed, a fyddai, pe baent o dan 21 oed—

(i)

yn bersonau ifanc categori 5, neu

(ii)

yn bersonau ifanc categori 6 sy’n dod o fewn y categori hwnnw yn rhinwedd adran 104(3)(a).

(3)

Caiff rheoliadau osod—

(a)

gofynion mewn perthynas â’r weithdrefn y mae’n rhaid ei sefydlu;

(b)

terfynau amser ar gyfer cyflwyno sylwadau y mae’r weithdrefn yn gymwys iddynt.

(4)

Rhaid i awdurdod lleol—

(a)

rhoi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon;

(b)

cydymffurfio ag unrhyw ofynion a osodwyd o dan is-adran (3)(a) wrth roi ystyriaeth i sylwadau y mae’r adran hon yn gymwys iddynt.

(5)

Yn yr adran hon mae i “person ifanc categori 2”, “person ifanc categori 3”, “person ifanc categori 4”, “person ifanc categori 5” a “person ifanc categori 6” yr ystyr a roddir gan adran 104.