RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 1CWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL

175Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc: darpariaeth bellach

(1)

Rhaid i awdurdod lleol, wrth iddo roi ystyriaeth i sylwadau y mae adran 174 yn gymwys iddynt, gydymffurfio â gofynion a osodwyd gan neu o dan is-adrannau (6) i (8) o’r adran honno.

(2)

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro’r camau y maent wedi eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion hynny.

(3)

Caiff rheoliadau osod terfynau amser ar gyflwyno sylwadau y mae adran 174 yn gymwys iddynt.

(4)

Pan fo sylw wedi ei ystyried o dan weithdrefn a sefydlwyd at ddibenion adran 174, rhaid i awdurdod lleol—

(a)

rhoi sylw i ganfyddiadau’r personau a roddodd ystyriaeth i’r sylw, a

(b)

cymryd unrhyw gamau sy’n rhesymol ymarferol i hysbysu (yn ysgrifenedig) y personau a grybwyllir yn is-adran (5) am benderfyniad yr awdurdod a’i resymau dros wneud y penderfyniad hwnnw ac am unrhyw gamau gweithredu y mae wedi eu cymryd neu y mae’n bwriadu eu cymryd.

(5)

Y personau hynny yw—

(a)

y person a gyflwynodd y sylw,

(b)

y person y mae’r sylw yn ymwneud ag ef (os yw’n wahanol), ac

(c)

unrhyw berson arall y mae’n ymddangos i’r awdurdod yr effeithir arno yn ôl pob tebyg.

(6)

Pan fo’r person a grybwyllir yn is-adran (5)(b) neu (c) yn blentyn, dim ond pan fo’r awdurdod lleol o’r farn bod gan y plentyn ddealltwriaeth ddigonol y mae’r ddyletswydd o dan is-adran (4)(b) yn gymwys.