RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 1CWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL

174Sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc

(1)

Rhaid i awdurdod lleol sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried y canlynol—

(a)

sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (3) yn gymwys iddo ynghylch y modd y mae’n cyflawni swyddogaeth gymhwysol mewn perthynas â phlentyn sy’n derbyn gofal ganddo, neu blentyn nad yw’n derbyn gofal ganddo ond y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth;

(b)

sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (4) yn gymwys iddo ynghylch y modd y mae’n cyflawni swyddogaethau o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig) sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau;

(c)

sylwadau (gan gynnwys cwynion) a wneir i’r awdurdod gan berson y mae is-adran (5) yn gymwys iddo ynghylch y modd mae’n cyflawni swyddogaethau o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau.

(2)

Mae’r canlynol yn swyddogaethau cymhwysol at ddibenion is-adran (1)(a)—

(a)

swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn o dan Rannau 3 i 6 (ac eithrio swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn fel gofalwr);

(b)

swyddogaethau sy’n arferadwy mewn perthynas â phlentyn o dan Ran 7;

(c)

swyddogaethau o dan Ran 4 neu Ran 5 o Ddeddf Plant 1989 sydd wedi eu pennu mewn rheoliadau.

(3)

Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau ynghylch cyflawni swyddogaethau cymhwysol) yn gymwys i’r canlynol—

(a)

y plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, neu’r plentyn nad yw’n derbyn gofal ganddo ond y gall fod arno anghenion am ofal a chymorth;

(b)

rhiant y plentyn;

(c)

person nad yw’n rhiant i’r plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn;

(d)

rhiant maeth awdurdod lleol y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(5);

(e)

darpar fabwysiadydd y lleolir y plentyn gydag ef o dan adran 81(11);

(f)

unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod ganddo ddiddordeb digonol yn lles y plentyn i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.

(4)

Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau am gyflawni swyddogaethau penodedig o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989) yn gymwys i’r canlynol—

(a)

plentyn y mae gorchymyn gwarcheidiaeth arbennig mewn grym mewn perthynas ag ef;

(b)

gwarcheidwad arbennig neu riant y plentyn;

(c)

person sydd wedi gwneud cais am asesiad o dan adran 14F(3) neu (4) o Ddeddf Plant 1989;

(d)

unrhyw berson arall y mae’r awdurdod lleol yn ystyried bod ganddo ddiddordeb digonol yn lles y plentyn i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.

(5)

Mae’r is-adran hon (sy’n ymwneud â sylwadau am y modd y mae swyddogaethau penodedig yn cael eu cyflawni o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002) yn gymwys i’r canlynol—

(a)

person a grybwyllwyd yn adran 3(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (y personau hynny y gwneir darpariaeth ar gyfer eu hanghenion gan y Gwasanaeth Mabwysiadu) ac unrhyw berson arall y mae trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau mabwysiadu (o fewn ystyr “adoption services” yn y Ddeddf honno) yn ei rychwantu;

(b)

unrhyw berson arall y mae’r awdurdod yn barnu bod ganddo ddiddordeb digonol mewn plentyn sydd wedi ei fabwysiadu neu a allai gael ei fabwysiadu i gyfiawnhau bod ei sylwadau yn cael eu hystyried gan yr awdurdod.

(6)

Rhaid i awdurdod lleol sicrhau (yn ddarostyngedig i is-adran (8)) fod y weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon yn sicrhau bod o leiaf un person nad yw’n aelod o’r awdurdod lleol nac yn swyddog iddo yn cymryd rhan yn y camau a ganlyn—

(a)

ystyried unrhyw sylw y mae’r adran hon yn gymwys iddo, a

(b)

unrhyw drafodaethau sy’n cael eu cynnal gan yr awdurdod am y camau sydd i’w cymryd, o ganlyniad i’r ystyried hwnnw, mewn perthynas â’r person y mae’r sylw yn ymwneud ag ef.

(7)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y weithdrefn y mae’n rhaid ei sefydlu at ddibenion yr adran hon.

(8)

Caiff y rheoliadau ddarparu (ymhlith pethau eraill) nad yw is-adran (6) yn gymwys mewn perthynas ag ystyried neu drafod sy’n digwydd er mwyn datrys yn anffurfiol y materion a godwyd mewn sylw.

(9)

Rhaid i awdurdod lleol roi cyhoeddusrwydd i’r weithdrefn y mae’n ei sefydlu at ddibenion yr adran hon.