xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CCWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI

PENNOD 1LL+CCWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL

173Cynhorthwy i achwynwyrLL+C

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol—

(a)gwneud trefniadau i roi cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau sy’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, cwyn o dan reoliadau a wnaed o dan adran 171, a

(b)rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.

(2)Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)y personau y mae’n rhaid darparu cynhorthwy iddynt;

(b)y math o gynhorthwy y mae’n rhaid ei ddarparu i’r personau hynny;

(c)y personau y caniateir i’r cynhorthwy hwnnw gael ei ddarparu ganddynt;

(d)y cam neu’r camau wrth ystyried cwyn y mae’n rhaid darparu cynhorthwy mewn perthynas ag ef neu hwy;

(e)y math o gyhoeddusrwydd y mae’n rhaid ei roi i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 173 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 173 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)