RHAN 10CWYNION, SYLWADAU A GWASANAETHAU EIRIOLI
PENNOD 1CWYNION A SYLWADAU AM WASANAETHAU CYMDEITHASOL
173Cynhorthwy i achwynwyr
(1)
Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol—
(a)
gwneud trefniadau i roi cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i bersonau sy’n gwneud, neu’n bwriadu gwneud, cwyn o dan reoliadau a wnaed o dan adran 171, a
(b)
rhoi cyhoeddusrwydd i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.
(2)
Caiff y rheoliadau, er enghraifft, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
y personau y mae’n rhaid darparu cynhorthwy iddynt;
(b)
y math o gynhorthwy y mae’n rhaid ei ddarparu i’r personau hynny;
(c)
y personau y caniateir i’r cynhorthwy hwnnw gael ei ddarparu ganddynt;
(d)
y cam neu’r camau wrth ystyried cwyn y mae’n rhaid darparu cynhorthwy mewn perthynas ag ef neu hwy;
(e)
y math o gyhoeddusrwydd y mae’n rhaid ei roi i’r trefniadau ar gyfer darparu’r cynhorthwy hwnnw.