RHAN 9CYDWEITHREDIAD A PHARTNERIAETH
Trefniadau partneriaeth
169Canllawiau ynghylch trefniadau partneriaeth
1
Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi, ac o bryd i’w gilydd ddiwygio, canllawiau ynghylch trefniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166.
2
Wrth arfer swyddogaethau a roddir iddynt o dan neu yn rhinwedd adrannau 166 i 168 rhaid i’r canlynol roi sylw i’r canllawiau hynny ac i unrhyw ganlyniadau a bennir mewn ddatganiad a ddyroddir o dan adran8 —
a
awdurdod lleol;
b
Bwrdd Iechyd Lleol;
c
tîm neu berson sy’n cyflawni trefniadau partneriaeth yn unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd adran 166(4)(b);
d
bwrdd partneriaeth a sefydlwyd o dan reoliadau o dan adran 168.