Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

168Byrddau partneriaethLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i fwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166 gael ei sefydlu gan—

(a)un neu fwy o awdurdodau lleol,

(b)un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol, neu

(c)un neu fwy o awdurdodau lleol ac un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y canlynol—

(a)aelodaeth byrddau partneriaeth;

(b)talu cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i aelodau byrddau partneriaeth;

(c)amcanion a swyddogaethau byrddau partneriaeth;

(d)y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan fyrddau partneriaeth;

(e)gwaith llunio adroddiadau gan fyrddau partneriaeth ac ynghylch eu ffurf, eu cynnwys, eu hamseru a’u cyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 168 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 168 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)