RHAN 9CYDWEITHREDIAD A PHARTNERIAETH

Trefniadau partneriaeth

168Byrddau partneriaeth

(1)

Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i fwrdd partneriaeth mewn cysylltiad â threfniadau partneriaeth a wneir o dan reoliadau o dan adran 166 gael ei sefydlu gan—

(a)

un neu fwy o awdurdodau lleol,

(b)

un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol, neu

(c)

un neu fwy o awdurdodau lleol ac un neu fwy o Fyrddau Iechyd Lleol.

(2)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y canlynol—

(a)

aelodaeth byrddau partneriaeth;

(b)

talu cydnabyddiaeth ariannol a lwfansau i aelodau byrddau partneriaeth;

(c)

amcanion a swyddogaethau byrddau partneriaeth;

(d)

y gweithdrefnau sydd i’w dilyn gan fyrddau partneriaeth;

(e)

gwaith llunio adroddiadau gan fyrddau partneriaeth ac ynghylch eu ffurf, eu cynnwys, eu hamseru a’u cyhoeddi.