RHAN 9CYDWEITHREDIAD A PHARTNERIAETH

Cydweithrediad

F1164A.Dyletswydd personau eraill i gydweithredu a darparu gwybodaeth

(1)

Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (4) wrth arfer ei swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)

yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)

fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(2)

Os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) ddarparu gwybodaeth iddo y mae ei hangen arno er mwyn arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—

(a)

yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu

(b)

fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.

(3)

Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) neu (2) roi i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.

(4)

Y personau yw—

(a)

awdurdod lleol yn Lloegr;

(b)

awdurdod tai lleol yn Lloegr;

(c)

Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

(d)

unrhyw grŵp comisiynu clinigol, Awdurdod Iechyd Arbennig, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG, neu ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr a sefydlwyd o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006;

(e)

unrhyw bersonau eraill—

(i)

a bennir gan reoliadau, neu

(ii)

o ddisgrifiad a bennir gan reoliadau.

(5)

Y swyddogaethau yw—

(a)

swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan adran 14F o Ddeddf Plant 1989 (gwasanaethau cynnal gwarcheidiaeth arbennig);

(b)

unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â diogelu a hyrwyddo llesiant plant a phobl ifanc, yn benodol y rhai hynny y mae arnynt anghenion gofal a chymorth, a’u teuluoedd ac eraill;

(c)

unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya;

(d)

unrhyw un neu rai o swyddogaethau’r awdurdod lleol mewn perthynas â phobl ifanc sydd â’r hawlogaeth i gael cymorth o dan adrannau 105 i 115.

(6)

Ni chaniateir i reoliadau o dan is-adran (4)(e) bennu’r personau a ganlyn heb gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol—

(a)

un o Weinidogion y Goron, na

(b)

llywodraethwr carchar neu ganolfan hyfforddi ddiogel (neu yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan neu ganolfan hyfforddi ddiogel sydd wedi ei chontractio allan, y cyfarwyddwr).

(7)

Yn yr adran hon, ystyr “awdurdod tai lleol” yw awdurdod tai lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local housing authority” yn Neddf Tai 1985.