164Dyletswydd i gydweithredu a darparu gwybodaeth wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasolLL+C
(1)Os yw awdurdod lleol yn gofyn am gydweithrediad person a grybwyllir yn is-adran (4) wrth arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—
(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu
(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.
(2)Os yw awdurdod lleol yn gofyn i berson a grybwyllir yn is-adran (4) ddarparu gwybodaeth iddo y mae ei angen arno er mwyn arfer unrhyw un neu rai o’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol, rhaid i’r person gydymffurfio â’r cais oni bai ei fod o’r farn y byddai gwneud felly—
(a)yn anghydnaws â’i ddyletswyddau ei hun, neu
(b)fel arall yn cael effaith andwyol ar arfer ei swyddogaethau.
(3)Rhaid i berson sy’n penderfynu peidio â chydymffurfio â chais o dan is-adran (1) neu (2) roi i’r awdurdod lleol a wnaeth y cais resymau ysgrifenedig dros y penderfyniad.
(4)Y personau yw—
(a)partner perthnasol i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y cais;
(b)awdurdod lleol, Bwrdd Iechyd Lleol neu [F1Ymddiriedolaeth GIG] nad yw’n bartner perthnasol i’r awdurdod lleol sy’n gwneud y cais;
(c)tîm troseddwyr ifanc ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni yn dod o fewn ardal yr awdurdod lleol sy’n gwneud y cais.
(5)Rhaid i awdurdod lleol a phob un o’r personau hynny a grybwyllwyd yn is-adran (4), wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt at y diben gan Weinidogion Cymru.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (5).
(7)At ddiben yr adran hon mae partner perthnasol awdurdod lleol yn berson sy’n bartner perthnasol yr awdurdod at ddibenion adran 162.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 164(4)(b) wedi eu hamnewid (6.4.2016) gan Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 (O.S. 2016/413), rhlau. 2(1), 311
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 164 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)