RHAN 9CYDWEITHREDIAD A PHARTNERIAETH
Cydweithrediad
162Trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad: oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth a gofalwyr
1
Rhaid i awdurdod lleol wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng—
a
yr awdurdod lleol,
b
pob un o bartneriaid perthnasol yr awdurdod wrth arfer—
i
eu swyddogaethau sy’n ymwneud ag oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth neu ag oedolion sy’n ofalwyr, a
ii
eu swyddogaethau eraill y mae eu harfer yn berthnasol i’r swyddogaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (i), a
c
unrhyw bersonau neu gyrff eraill y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod yn briodol, a’r rheini’n bersonau neu’n gyrff o unrhyw natur sy’n arfer swyddogaethau neu sy’n ymgymryd â gweithgareddau mewn perthynas â’r canlynol—
i
oedolion o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, neu
ii
oedolion o fewn ardal yr awdurdod sy’n ofalwyr.
2
Rhaid i awdurdod lleol hefyd wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad rhwng swyddogion yr awdurdod sy’n arfer ei swyddogaethau.
3
Mae’r trefniadau o dan is-adrannau (1) a (2) i’w gwneud gyda golwg ar—
a
gwella llesiant—
i
oedolion o fewn ardal yr awdurdod y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth, a
ii
oedolion o fewn ardal yr awdurdod sy’n ofalwyr;
b
gwella ansawdd y gofal a’r cymorth i oedolion, ac ansawdd y cymorth i oedolion sy’n ofalwyr, a ddarperir yn ardal yr awdurdod (gan gynnwys y canlyniadau a sicrheir drwy’r ddarpariaeth honno);
c
amddiffyn oedolion y mae arnynt anghenion am ofal a chymorth ac sy’n cael, neu sy’n wynebu risg o gael, eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
4
At ddibenion yr adran hon mae pob un o’r canlynol yn bartner perthnasol i awdurdod lleol—
a
y corff plismona lleol a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer ardal heddlu y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod lleol;
b
unrhyw awdurdod lleol arall y mae’r awdurdod yn cytuno y byddai’n briodol cydweithredu ag ef o dan yr adran hon;
c
yr Ysgrifennydd Gwladol i’r graddau y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn cyflawni swyddogaethau o dan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 o ran Cymru;
d
unrhyw ddarparwr gwasanaethau prawf y mae’n ofynnol iddo gan drefniadau o dan adran 3(2) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 weithredu fel partner perthnasol i’r awdurdod;
e
Bwrdd Iechyd Lleol ar gyfer ardal y mae unrhyw ran ohoni o fewn ardal yr awdurdod;
f
ymddiriedolaeth GIG sy’n darparu gwasanaethau yn ardal yr awdurdod;
g
Gweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn cyflawni swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000;
h
unrhyw berson, neu berson o unrhyw ddisgrifiad, y bydd rheoliadau yn ei bennu.
5
Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (4)(h) bennu un o Weinidogion y Goron na llywodraethwr carchar (neu yn achos carchar sydd wedi ei gontractio allan, y cyfarwyddwr) oni bai bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cydsynio.
6
Rhaid i bartneriaid perthnasol awdurdod lleol gydweithredu â’r awdurdod wrth wneud trefniadau o dan yr adran hon.
7
Caiff awdurdod lleol ac unrhyw un neu rai o’i bartneriaid perthnasol, at ddibenion trefniadau o dan yr adran hon—
a
darparu staff, nwyddau, gwasanaethau, llety neu adnoddau eraill;
b
sefydlu a chynnal cronfa gyfun;
c
rhannu gwybodaeth â’i gilydd.
8
At ddibenion is-adran (7) mae cronfa gyfun yn gronfa—
a
sydd wedi ei ffurfio o gyfraniadau gan yr awdurdod a’r partner neu’r partneriaid perthnasol o dan sylw, a
b
y caniateir i daliadau gael eu gwneud ohoni tuag at wariant a dynnir wrth gyflawni swyddogaethau’r awdurdod a swyddogaethau’r partner neu’r partneriaid perthnasol.
9
Rhaid i awdurdod lleol a phob un o’i bartneriaid perthnasol, wrth arfer eu swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
10
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol cyn rhoi canllawiau o dan is-adran (9).
11
Yn yr adran hon—
a
mae cyfeiriad at garchar yn cynnwys sefydliad troseddwyr ifanc;
b
mae i gyfeiriad at garchar sydd wedi ei gontractio allan yr ystyr a roddir i “contracted out prison” gan adran 84(4) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991.