xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Diwygiadau Testunol
F1A. 161-161C ac croes-benawd wedi ei amnewid ar gyfer a.161 (29.4.2019) gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), aau. 57(2), 188(1); O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(c)
(1)Mae’n drosedd i berson—
(a)mynd ati’n fwriadol i rwystro cynnal arolygiad o fangre o dan adran 161 gan arolygydd, neu
(b)methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person gan arolygydd sy’n cynnal arolygiad o’r fath.
(2)Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodir ar y person gan Weinidogion Cymru o dan adran 161B(1).
(3)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1)(b) neu (2) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros beidio â chydymffurfio â’r gofyniad.
(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—
(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 6 mis, neu i’r ddau;
(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy, neu i’w garcharu am dymor nad yw’n hwy na 2 flynedd, neu i’r ddau.
(5)Mae adrannau 53 (troseddau gan gyrff corfforaethol), 54 (troseddau gan gyrff anghorfforedig) a 55 (achosion am droseddau) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gymwys i drosedd o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i droseddau o dan Ran 1 o’r Ddeddf honno.”]