RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

F1Gorfodi

Annotations:

161Pwerau mynd i mewn ac arolygu

1

Caiff person sy’n dod o fewn is-adran (2) awdurdodi arolygydd i fynd i mewn i fangre sy’n dod o fewn is-adran (3) a’i harolygu.

2

Mae’r personau a ganlyn yn dod o fewn yr is-adran hon—

a

Gweinidogion Cymru—

i

pan fônt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion adolygiad a gynhelir o dan adran 149B(1), neu

ii

yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 155;

b

person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 153 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth o bersonau, y person y mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo i’r contract neu’r trefniant arall ag ef sy’n ofynnol drwy’r cyfarwyddyd;

c

person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 154;

d

person a enwebir mewn cyfarwyddyd o dan adran 155.

3

Mae’r mangreoedd a ganlyn o dod o fewn yr is-adran hon—

a

mangreoedd y mae awdurdod lleol yn berchen arnynt neu’n eu rheoli;

b

mangreoedd—

i

sy’n cael eu defnyddio, neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio, gan unrhyw berson mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol, neu

ii

y mae Gweinidogion Cymru yn credu’n rhesymol eu bod yn cael eu defnyddio, neu y gallant gael eu defnyddio, at y diben hwnnw,

ond nid yw mangre sy’n cael ei defnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat yn dod o fewn yr is-adran hon ond os yw meddiannydd y fangre yn cydsynio i’r arolygydd fynd i mewn a’i harolygu.

4

Mae “mangre” yn cynnwys cerbyd.

5

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y cymwysterau a’r amodau eraill sydd i’w bodloni gan unigolyn y caniateir iddo fod yn arolygydd.

6

Wrth fynd i mewn i fangre, rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan unrhyw berson yn y fangre, gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd o dan is-adran (1).

7

Caiff yr arolygydd—

a

archwilio cyflwr y fangre a’r ffordd y caiff ei rheoli ac, os oes unrhyw bersonau yn cael eu lletya yn y fangre neu’n cael gofal a chymorth yno, archwilio’r driniaeth y mae’r personau hynny yn ei chael;

b

ei gwneud yn ofynnol i reolwr y fangre neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd fod ganddo, neu ei fod yn atebol am, ddogfennau neu gofnodion a gedwir yn y fangre, gyflwyno unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn ystyried y gallant fod yn berthnasol i’r aferiad o swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y person a awdurdododd yr arolygydd;

c

edrych ar unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill) y mae’r arolygydd yn ystyried y gallant fod yn berthnasol i’r arferiad o swyddogaethau o dan y Rhan hon gan y person a awdurdododd yr arolygydd a mynd â chopïau ohonynt;

d

ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi i’r arolygydd unrhyw gyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â materion sydd o fewn rheolaeth y person y mae eu hangen er mwyn galluogi’r arolygydd i gynnal yr arolygiad;

e

cymryd unrhyw fesuriadau, tynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw recordiadau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben cynnal yr arolygiad;

f

cyf-weld yn breifat—

i

â rheolwr y fangre neu unrhyw berson arall yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre;

ii

ag unrhyw berson sy’n gweithio yno;

iii

ag unrhyw berson sy’n cydsynio i gael ei gyf-weld sy’n cael ei letya yno neu sy’n cael gofal a chymorth yno.

8

Mae’r pwerau yn is-adran (7)(b) i (d) yn cynnwys y pŵer—

a

i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig y mae gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu eu bod yn cael eu defnyddio (neu wedi cael eu ddefnyddio) mewn cysylltiad â’r dogfennau neu’r cofnodion a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur a chyfarpar cysylltiedig o’r fath, a

b

i’w gwneud yn ofynnol i ddogfennau neu gofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy’n ddarllenadwy ac yn gludadwy.

9

Mae is-adran (10) yn gymwys—

a

pan fo personau yn cael eu lletya yn y fangre sy’n cael ei harolygu neu’n cael gofal a chymorth yno,

b

pan fo’r arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig, ac

c

pan fo gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros gredu nad yw person sy’n cael ei letya yn y fangre neu sy’n cael gofal a chymorth yno yn cael (neu wedi cael) gofal a chymorth priodol.

10

Pan fo’r is-adran hon yn gymwys, caiff yr arolygydd gynnal archwiliad preifat o’r person ond dim ond os yw’r person yn rhoi cydsyniad i’r archwiliad.

11

At ddibenion is-adrannau (7)(f) a (10), mae cyfweliad neu archwiliad i’w drin fel pe bai wedi ei gynnal yn breifat er gwaethaf presenoldeb trydydd parti—

a

os yw’r person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol ac nad yw’r arolygydd yn gwrthwynebu, neu

b

os yw’r arolygydd yn dymuno i’r trydydd parti fod yn bresennol a bod y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono yn cydsynio.

12

Pan fo arolygydd yn cynnal cyfweliad neu archwiliad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny gan—

a

y person y cyfwelir ag ef neu y cynhelir archwiliad ohono, neu

b

unigolyn sy’n dod gyda’r person hwnnw,

gyflwyno dogfen sy’n dangos awdurdodiad yr arolygydd a roddir o dan is-adran (1) ac, yn achos archwiliad, ddogfen sy’n dangos bod yr arolygydd yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu’n nyrs gofrestredig.

13

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i arolygydd orffen arolygiad o dan yr adran hon, rhaid i’r arolygydd anfon adroddiad ar yr arolygiad at y person a roddodd yr awdurdodiad o dan is-adran (1).

14

Rhaid i’r person hwnnw anfon copi o adroddiad yr arolygydd—

a

i’r awdurdod lleol sy’n cael ei adolygu neu sy’n ddarostyngedig i’r cyfarwyddyd, a

b

os nad Gweinidogion Cymru yw’r person, at Weinidogion Cymru.

15

Yn yr adran hon ac yn adrannau 161A, 161B a 161C, ystyr “arolygydd” yw unigolyn sydd wedi ei awdurdodi o dan is-adran (1).