Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

158Ymyrryd: dyletswydd i adroddLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer eu pŵer i roi cyfarwyddyd o dan adran 153, 154, 155 neu 157, rhaid iddynt—

(a)o fewn 21 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, osod copi o’r cyfarwyddyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)o fewn 90 diwrnod o roi’r cyfarwyddyd, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 158 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 158 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)