RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL
Ymyriadau gan y llywodraeth ganolog
I1156Pŵer i gyfarwyddo bod swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol eraill yn cael eu harfer
1
Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 154 neu 155 ymwneud â chyflawni swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy.
2
Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus bod cyfarwyddyd yn ymwneud â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol nad ydynt yn swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd.