RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Ymyriadau gan y llywodraeth ganolog

I2I1154Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran yr awdurdod

1

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

2

Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o’r fath i’r awdurdod lleol neu unrhyw un o’i swyddogion y maent yn credu ei fod yn briodol i sicrhau bod y swyddogaethau hynny y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.

3

Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod gyda’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

4

Os oes cyfarwyddyd o dan is-adran (2) mewn grym, mae swyddogaethau’r awdurdod lleol y mae’n ymwneud â hwy i’w trin at bob diben fel eu bod yn arferadwy gan y person penodedig.