RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Ymyriadau gan y llywodraeth ganolog

153Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bŵer i ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, ar gyfer darparu i’r awdurdod wasanaethau penodedig cynghorol eu natur.

(3)

Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu drefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

(4)

Yn yr adran hon ac adran 154 ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd.