RHAN 8SWYDDOGAETHAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL

Ymyriadau gan y llywodraeth ganolog

151Hysbysiad rhybuddio

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)

y seiliau dros ymyrryd;

(b)

y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)

y camau gweithredu y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymryd i ddelio â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)

y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan yr awdurdod lleol (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)

y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)

Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio o dan is-adran (1), rhaid iddynt—

(a)

o fewn 21 diwrnod o roi’r hysbysiad, osod copi ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)

o fewn 90 diwrnod o roi’r hysbysiad, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol mewn ymateb i’r hysbysiad rhybuddio.