Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

151Hysbysiad rhybuddioLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)y camau gweithredu y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymryd i ddelio â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan yr awdurdod lleol (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio o dan is-adran (1), rhaid iddynt—

(a)o fewn 21 diwrnod o roi’r hysbysiad, osod copi ohono gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)o fewn 90 diwrnod o roi’r hysbysiad, adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch y camau a gymerwyd gan yr awdurdod lleol mewn ymateb i’r hysbysiad rhybuddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 151 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 199(2)

I2A. 151 mewn grym ar 6.4.2016 gan O.S. 2016/412, ergl. 2 (ynghyd ag ergl. 4, Atod. 1, Atod. 2)